
Cynllun
Taith360
Creu cynlluniau sy’n dwyn ynghyd elfennau o bob un o chwe maes y cwricwlwm yn ogystal â’r fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd.
Trac
Taith360
Llunio barnau ar gyfer pob disgybl ym mhob maes ac ar draws yr holl gamau cynnydd er mwyn creu darlun o daith ddysgu pob plentyn o’u diwrnod cyntaf un yn yr ysgol i’r adeg y bydd yn gadael yn 16 oed.
Adroddiad
Taith360
Monitro cwmpas a chynnydd ar draws y pum cam cynnydd er mwyn helpu i nodi’r camau nesaf ar gyfer disgyblion unigol a charfannau cyfan.
Cwricwlwm i Gymru
Cynllun
Mae Taith360 yn cynnig arf cynllunio hyblyg sy’n eich galluogi i greu, golygu a rhannu cynlluniau sy’n gweddu i ofynion lleoliad a chynllunio eich ysgol.

Cwricwlwm i Gymru
Trac
Mae asesu ar gyfer dysgu wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae Taith360 yn cynnig golwg glir o allu pob disgybl ar lefel unigol a dosbarth.

Cwricwlwm i Gymru
Adroddiad
Mae Taith360 wedi cael ei llunio i helpu rhwyddhau’r pontio i Gwricwlwm 2022 a chynorthwyo gyda monitro cynnydd, gweithgarwch a’r camau nesaf.

Cwricwlwm i Gymru
Golwg
Mae cwricwlwm newydd Cymru’n canolbwyntio’n gryf iawn ar y disgybl cyfan. Mae Taith360 yn caniatáu ichi gofnodi a monitro nid yn unig cyflawniad academaidd, ond hefyd brofiadau, teimladau ac agweddau allweddol eich dysgwyr.

Cwricwlwm i Gymru
Cyswllt
Un o’r camau mwyaf ymlaen yn Taith360 yw y gall gysylltu’n uniongyrchol â system reoli gwybodaeth eich ysgol, gan wneud diweddaru â llaw yn rhywbeth o’r gorffennol.

Cysylltwch
Asesu wrth galon y dysgu
Yn Assessment360, rydym yn deall pwysigrwydd lleihau llwyth gwaith athrawon nad yw’n ymwneud ag addysgu ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r offer a’r cymorth i’n hysgolion wneud hynny. Trwy gydweithio ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn y DU, mae gennym hanes o ddylunio systemau arloesol sy’n cynnig offer cynllunio, olrhain ac adrodd cyflawn, gan eich galluogi i olrhain dysgu plentyn ar draws y cwricwlwm llawn.
I drafod sefydlu ein hoffer arbenigol Taith360 (Cymru) neu Turas360 (Yr Alban) ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost at support@assessment360.org.





