Mae ein modiwlau hyfforddi wedi cael eu cynllunio ar gyfer ysgolion, ac yn y mwyafrif o achosion, byddant union yr hyn y byddwch ei angen i ddiwallu eich gofynion hyfforddi. Fodd bynnag, bydd achlysuron pan na fydd hyn yn wir, a bydd arnoch angen pecyn hyfforddi wedi ei deilwra’n fwy penodol ar eich cyfer. Dyna lle daw ein hyfforddiant perthnasol yn ddefnyddiol. Gallwch ddewis naill ai 3 neu 5 uned o’r rhestr isod, a byddwn yn adeiladu pecyn hyfforddi pwrpasol i ddiwallu eich anghenion.

Training Assessment360

Cofnodi cyraeddiadau

Canfod sut i gofnodi cyraeddiadau ar gyfer dosbarth cyfan, grŵp o ddisgyblion, neu ddisgybl unigol, yn gyfym a hawdd.

Hanes a thystiolaeth cyrhaeddiad

Darganfod sut i ychwanegu tystiolaeth i gefnogi eich dyfarniadau olrhain, a sut i fonitro hanes olrhain ar sail sgiliau a ddewiswyd.

Adnabod y camau nesaf

Defnyddio’r data olrhain rydych chi wedi ei gofnodi i ganfod y camau nesaf mewn dysgu i’ch disgyblion.

Creu cynlluniau newydd

Dysgu sut i greu cynllun o’r newydd, gan eich galluogi i ddarparu ar gyfer eich holl gwricwlwm a sicrhau bod y cwricwlwm yn cael sylw drwy gydol y flwyddyn.

Rheoli cynlluniau

Darganfod sut i gopïo a golygu cynlluniau a grewyd eisoes, ac wedyn olrhain cyrhaeddiad ar sail y cynnwys a gynlluniwyd.

Olrhain gwaith a gynlluniwyd

O’r lefel i lawr, sicrhau eich bod yn cynllunio ar gyfer y cwricwlwm cyfan, ac adnabod unrhyw agweddau a all fod yn gofyn am sylw pellach.

Y disgybl ar dudalen

Canfod sut i weld data cyrhaeddiad disgyblion a’r holl ffactorau a allai fod wedi dylanwadu ar y cynnydd a wnaed gan ddisgybl.

Gweld data dosbarth cyfan

Darganfod sut i edrych ar ddata, gan gynnwys cyrhaeddiad a chynnydd ar gyfer y flwyddyn bresennol, a chymharu disgyblion er mwyn adnabod y rheini y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.

Agwedd at ddysgu a llesiant

Dysgu sut i gofnodi agwedd at ddysgu a gwybodaeth am lesiant ar gyfer disgyblion, a sut y gellir defnyddio hyn i helpu cefnogi cynnydd a wnaed yn yr ysgol.

Metrigau allweddol cohort

Darganfod sut i weld eich data fesul cohort, a sut i weld data ar gyfer grwpiau cyd-destunol allweddol.

Allbynnu eich data

Cael y data o allbwn y tudalennau Trosolwg mewn fformat PDF, i’w ddefnyddio o fewn yr ysgol neu ei rannu gyda rhieni.

Monitro cynnydd

Olrhain cynnydd a wnaed gan ddisgyblion, dosbarthiadau a cohortau o fewn ystod dyddiad penodol, boed cyn lleied â mis, neu’n rhychwantu sawl blwyddyn.

Rheoli setiau a grwpiau

Darganfod sut i sefydlu grwpiau o ddisgyblion i’w defnyddio gyda chynllunio ac olrhain. Perffaith ar gyfer grwpiau neu setiau ymyrraeth.

Cynhyrchu a golygu adroddiadau

Dysgu sut i gynhyrchu adroddiadau i rieni, a chael rhai cynghorion a thriciau ar sut i’w golygu unwaith maent mewn Micrsoft Word.

Rheoli profion

Darganfod sut i reoli profion i’ch ysgol mewn lleoliad canolog ac ychwanegu canlyniadau profion a fydd yn mynd drwodd i dudalen Trosolwg pob disgybl unigol.

Prisiau

Mae sesiwn hyfforddi unswydd ar-lein sy’n cynnwys tair uned yn costio £175 (+ TAW). Am bum uned, mae’n costio £225 (+ TAW). Dyma’r pris ar gyfer yr ysgol, boed gennych 2 neu 22 o staff yn ymuno â’r sesiwn.

Hyfforddiant

Cyrsiau Hyfforddiant Ychwanegol

Cymerwch gip ar ein cyrsiau hyfforddi ychwanegol sydd ar gael

User Guide Training

Hyfforddiant Canllaw Defnyddwyr

Mae’r sesiynau hyn yn berffaith i rywun sy’n chwilio am drosolwg o Taith360 mewn fformat canllawiau defnyddwyr. Rydym yn ymdrin â phob agwedd o’r system, gan gynnwys swyddogaeth gweinyddu, mewn digon o fanylder i’ch galluogi i gychwyn ar y system.

Assessment360 Modular Training

Hyfforddiant Modiwlaidd

Rydym wedi datblygu gwahanol sesiynau modiwl i edrych ar agweddau penodol o Taith360 yn fanylach.

Cysylltwch

Asesu wrth galon y dysgu

Yn Assessment360, rydym yn deall pwysigrwydd lleihau llwyth gwaith athrawon nad yw’n ymwneud ag addysgu ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r offer a’r cymorth i’n hysgolion wneud hynny. Trwy gydweithio ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn y DU, mae gennym hanes o ddylunio systemau arloesol sy’n cynnig offer cynllunio, olrhain ac adrodd cyflawn, gan eich galluogi i olrhain dysgu plentyn ar draws y cwricwlwm llawn.

I drafod sefydlu ein hoffer arbenigol Taith360 (Cymru) neu Turas360 (Yr Alban) ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost at support@assessment360.org.

Testimonial Logo
Testimonial Logo
Testimonial YSGOL
Testimonial Logo
Testimonial Logo
Testimonial Logo