Olrhain a’r camau nesaf
Edrychwch yn fanwl ar sut y gallwch olrhain cyrhaeddiad eich disgyblion a lanlwytho nodiadau a thystiolaeth i gefnogi’r cyrhaeddiad a arsylwyd.
Archwiliwch y data a gynhyrchir gan y cyraeddiadau hyn a sut y gellir ei ddefnyddio i nodi camau nesaf addas a phenodol ar gyfer eich disgyblion.
Cynllunio a Chwmpas
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar greu ac olrhain cynlluniau, o ran cyrhaeddiad a chwricwlwm cynlluniedig.
Yn y sesiwn hon byddwn yn nodi sut y gall arweinwyr ysgol ddefnyddio’r system i sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys yn cael ei gyflwyno.
Cynnydd a’r Tudalennau Data
Archwilio’r tudalennau data ar y system, a sut y gellir eu defnyddio i ddeall yn well beth yw anghenion eich disgyblion, er mwyn iddynt fanteisio i’r eithaf ar eu potensial ar hyd eu taith ddysgu.
Dysgwch sut i weld cynnydd o ran cynnydd y flwyddyn gyfredol neu gynnydd dros gyfnod penodol o amser.
Cysylltwch
Asesu wrth galon y dysgu
Yn Assessment360, rydym yn deall pwysigrwydd lleihau llwyth gwaith athrawon nad yw’n ymwneud ag addysgu ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r offer a’r cymorth i’n hysgolion wneud hynny. Trwy gydweithio ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn y DU, mae gennym hanes o ddylunio systemau arloesol sy’n cynnig offer cynllunio, olrhain ac adrodd cyflawn, gan eich galluogi i olrhain dysgu plentyn ar draws y cwricwlwm llawn.
I drafod sefydlu ein hoffer arbenigol Taith360 (Cymru) neu Turas360 (Yr Alban) ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost at support@assessment360.org.